Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Medi 2020
Amser:
14.30 -
16.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6428
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru Tom Nicholls, Llywodraeth Cymru Rob Owen, Llywodraeth Cymru Simon White, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Buddsoddiad rhanbarthol ar ôl Brexit - 20 Gorffennaf 2020
2.2 PTN 2 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Prif Weinidog: Ymchwiliad cyhoeddus i'r ymateb i bandemig y Coronafeirws yng Nghymru – 30 Gorffennaf 2020
2.3 PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 27 Gorffennaf 2020
2.4 PTN 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwybodaeth am y blaengynllunio ariannol ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol - 11 Awst 2020
2.6 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar y symiau canlyniadol y mae Cymru wedi'u cael yn sgil Covid-19 - 19 Awst 2020
2.7 PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Ymateb ariannol i Covid-19 - 5 Medi 2020
2.8 PTN 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar gais ffurfiol Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am ddatganoli rhagor o gymhwysedd trethi - 8 Medi 2020
3 Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol; Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Bil - Uwch Swyddog Ymchwil; Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth; a Rob Owen, Rheolwr Deddfwriaeth Rhentu Cartrefi ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
3.2 Cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth gyfathrebu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
4 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Hewitt, Pennaeth Trethi a Deddfwriaeth a Dr Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Trafod y dystiolaeth
6.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dystiolaeth a chytunodd i beidio â chyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
7 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
7.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dystiolaeth a chytunodd i beidio â chyflwyno adroddiad ar y Bil.
8 Trafod y flaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
9 Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ymgysylltu â’r cyhoedd o ran yr Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol.